Skip to main content
MrSpinnert von MrSpinnert, vor 9 Jahren
Gwaed ar eu Dwylo

Neil Williams – Gwaed ar eu Dwylo

GWAED AR EU DWYLO

O Tomos John Williams, mi welaf dy fedd
Ar gaeau glas Ffrainc sydd heddiw mewn hedd
Rwyt heddiw mor unig, mor bell o Fron Goch
A’r pabi yn unig sy’n cofio gwaed coch.
Mi welaf nad oeddyt ddim ond deunaw oed
Wrth ddisgyn i’r Somme – dyna hanes erioed,
Wrth ymladd dros wledydd a thros eu rhyddhau
Mi gefaist yn ddeunaw i’r ddaear dy gau.

Ond ni che’st d’alw’n arwr, na dy gyfri’n wlatgarwr,
Ac ni chwifiwyd y faner ar hanner y mast,
Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo
Gan y rhai oedd â gwaed ar eu dwylo.
A phwy oeddan nhw ddwedodd wrthyt ysgwn
Mai swanc oedd i lanc ysgwyddo y gwn?
A phwy oeddan nhw efo’u hiwnifform „swell"
A’th ddriliodd a’th fartsiodd, a’th fwrdrodd mewn sbel.

Ni welaist drwy hyn tan rhy hwyr yn y dydd
Ni che’st ti mo’r cyfle i dyfu’n ddyn rhydd
Ond drwy’r mwg a thrwy’r medals wrth ddisgyn i’r llawr
Mi welaist nad nhw fyddai’n wylo yn awr.

Roedd eraill mewn cell yn dy annwyl Fron Goch
Yn llwydaidd eu gwedd yn cael bwyd cibau’r moch
Ond fflam eu gwrthryfel a gadwant ynghyn
A Werddon a gododd drwy safiad di-gryn.
Mi gawsant gaethiwed am geisio rhyddhau
Eu gwlad hwy o’r dwylo a’th yrrodd i’th wae
A mam yn Fron Goch oedd a’i chalon yn drom
Wrth glywed fod llencyn yn llwch yn y Somme.

Mae’r dynion yn Llundain a’u seddau Whitehall
Yn gyrru i ryfel rhai byth na ddon `nôl;
O slymiau tre Glasgow neu Cymru cefngwlad
Mae hogiau dinewid yn cyrchu i’r gâd.
I farw neu ynteu i ladd eu cyd ddyn
Yn enw rhyw rhyddid nas gwyddo ei hun;
Rwyt ti, Tomos Williams, dros ddim yn y byd
Yn disgyn yn `sglyfaeth i’r fffosydd o hyd.

Ni welaist drwy hyn tan rhy hwyr yn y dydd
Ni che’st ti mo’r cyfle i dyfu’n ddyn rhydd
Ond drwy’r mwg a thrwy’r medals wrth ddisgyn i’r llawr
Mi welaist nad nhw fyddai’n wylo yn awr.